Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (38)v3 |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud)
Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
Cwestiwn Brys
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am unrhyw drafodaethau neu gysylltiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael gyda Peacocks yn sgîl datblygiadau diweddar. EAQ(4)0088(BET) |
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
|
3. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Ysgolion ar gyfer yr 21ain ganrif (45 munud) |
4. Datganiad gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth: Cwrdd â’r Her Tai: Creu consensws ar gyfer gweithredu (30 munud) |
5. Dadl ar Greu Cymunedau Mwy Diogel i bawb – Gwella ansawdd bywyd i bobl Cymru (60 munud) NDM4889 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi’r gwaith sydd wedi’i gyflawni gan Lywodraeth Cymru a’r asiantaethau sy’n bartner iddi i hybu’r agenda Diogelwch Cymunedol ac i greu Cymru ddiogelach i bawb. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Dileu popeth ar ôl “iddi” a rhoi yn ei le: ar yr agenda Diogelwch Cymunedol ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i wella diogelwch cymunedol yng Nghymru, gan ymgysylltu’n llawn â phartneriaid i hybu agenda gynhwysol a chreu Cymru ddiogelach i bawb. Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi’n benodol gyfraniad cadarnhaol cynghorau lleol i wella diogelwch cymunedol, er enghraifft drwy gyllido Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu a chyflwyno cynlluniau gosod gatiau. Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnwys ar ddiwedd y cynnig: ond yn credu y byddai hyn yn gwella eto fyth petai
plismona’n cael ei ddatganoli i Gymru. |
6. Dadl ar Bolisi Cynllunio ar gyfer Datblygu Economaidd (60 munud) NDM4890 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud wrth ddiweddaru polisi cynllunio ar gyfer datblygu economaidd Mae’r ymgynghoriad ar "Diwygio Pennod 7 o Bolisi Cynllunio Cymru – Cynnal yr Economi" i’w weld yn http://wales.gov.uk/consultations/planning/ppwch7consultation/?skip=1&lang=cy Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod bod y system gynllunio’n hanfodol ar gyfer economi gref ac felly’n gresynu wrth yr oedi ar ran Llywodraeth Cymru wrth gyflwyno newidiadau i Bolisi Cynllunio Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i: Gyflwyno Bil Cynllunio Cymru yn gynharach na’r hyn a nodwyd yn y Datganiad Deddfwriaethol, fel y gellir rhoi agwedd strategol ond syml ar waith mewn canllawiau ar draws yr holl sectorau polisi er mwyn gwella'r economi a lles pobl Cymru. Gellir gweld y Datganiad Deddfwriaethol drwy fynd i: http://cymru.gov.uk/legislation/programme/?skip=1&lang=cy Gellir gweld Polisi Cynllunio Cymru drwy fynd i: http://wales.gov.uk/topics/planning/policy/ppw/?skip=1&lang=cy Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ei Bil Cynllunio’n gynharach nag a nodwyd yn ei datganiad deddfwriaethol, ac i ymgynghori’n eang arno, er mwyn helpu i ddiwallu anghenion datblygu economaidd. |
Cyfnod Pleidleisio |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30 Dydd Mercher, 18 Ionawr 2012